Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Gwaith yn mynd yn ei flaen yn ystod y gaeaf i ddiogelu Camlas hanesyddol Sir Fynwy a Brycheiniog

Mae Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, wedi dechrau ar raglen bedwar mis o welliannau i ddiogelu a chynnal camlas hyfryd Sir Fynwy a Brycheiniog.

A group of people in high visability jackets and hard hats standing on the towpath

Bydd y gwaith ar y gamlas 35 milltir o hyd, sydd â'i hanes yn dyddio'n ôl dros 220 mlynedd, yn gorffen ym mis Mawrth ac yna bydd tîm o staff yr Ymddiriedolaeth a gwirfoddolwyr yn atgyweirio'r pontydd, waliau'r lociau a cheulannau'r gamlas.

Mae'r rhaglen yn cynnwys:

  • Atgyweiriadau i ail-bwyntio a selio waliau'r lociau ar Gwrs Lociau Llangynidr
  • Gwaith i rwystro gollyngiadau ar y geulan feddal ger Brynich
  • Atgyweiriadau i'r cysylltiadau concrid rhwng pontydd 106 a 109 sydd angen eu selio â resin a sment i rwystro gollyngiadau
  • Ymchwiliadau i'r leinin gwrth-ddŵr yn y gamlas yn nyfrbont 10 ger Gofilon i asesu'r angen am atgyweiriadau
  • Atgyweiriadau i'r pontydd ar Bont Humphreys ger Gofilon a Phont Squires a'r Bont Uchel ger Pont-y-pŵl
  • Atgyweiriadau i wely a waliau gamlas uwchben Cwlfer 31 ger Llangynidr a Chwlfer 29 ger Glanusk a wnaed gan y contractwyr Kier
A drained canal revealing muddy ground

Meddai Hannah Booth, rheolwraig gweithrediadau ardal camlas Sir Fynwy a Brycheiniog: “Mae ein tîm medrus o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio gydol y gaeaf i wneud y gwaith cynnal a chadw pwysig a pharhaus, gwaith atgyweirio a chadwraeth a fydd yn sicrhau y gallwn gadw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn agored, yn ddiogel ac yn hygyrch i ymwelwyr ac i gychwyr.

"Gyda'r gamlas yn dyddio'n ôl i'r 1790au, mae'n hollbwysig ein bod yn ymgymryd â'r gwaith hwn i gadw ei hanes cyfoethog yn fyw fel y gall barhau i fod o fudd i bobl heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.

"Rydym yn gweithio i atgyweirio waliau lociau a phontydd, trwsio gollyngiadau, trwsio'r leinin clai ar gwlferi, ac rydym yn ymgymryd â gwaith archwilio arall fel rhan o'n rheolaeth o'r gamlas. Mae hon yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn i gynnal y ddyfrffordd arbennig hon sy'n gwau trwy galon dyffryn Wysg a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnig buddion i bobl, natur a threftadaeth.”

Er mwyn gwneud y gwelliannau, mae rhannau o'r gamlas wedi eu draenio ar ôl achub y pysgod a'u symud i rannau eraill o'r gamlas.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn buddsoddi £350,000 yn y gamlas y gaeaf hwn fel rhan o fuddsoddiad hanfodol ehangach o £57 miliwn i gynnal y rhwydwaith camlesi ar draws Cymru a Lloegr. Am ragor o wybodaeth am waith Glandŵr Cymru a dysgu sut i fod o gymorth trwy wirfoddoli neu gyfrannu, ewch i canalrivertrust.org.uk

Last Edited: 09 August 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration