Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Camlas Abertawe wedi'i goleuo gyda llusernau i ddathlu ei phen-blwydd yn 225 oed

Daeth dros 300 o bobl o bob rhan o Gwm Tawe allan ddydd Sadwrn i ddathlu 225 mlwyddiant Camlas Abertawe gyda gorymdaith llusernau arbennig 'Goleuo'r Gamlas' ym Mharc Coed Gwilym yng Nghlydach.

Lantern in the shape of a house and otter at night time

Roedd Glandŵr Cymru a Chymdeithas Camlas Abertawe wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned leol i drefnu’r dathliadau gaeafol ar gyfer blwyddyn y pen-blwydd mawr.

Cafwyd gorymdaith o dros gant o lusernau a wnaed gan y cyhoedd i oleuo'r gamlas, ar ôl i drigolion lleol dreulio amser yn gweithio gyda Vivian Rhule ac artistiaid lleol eraill o'r ardal mewn cyfres o weithdai am ddim i greu eu dyluniadau. Dyluniodd cwmni celfyddydau cymunedol o Sir Benfro, 'spacetocreate', lusernau ceffylau, elyrch a dyfrgwn maint llawn hefyd i’w harddangos yn y digwyddiad.

Roedd y cyfan yn wledd i’r synhwyrau ac yn ddim ond un o sawl dathliad gydol y flwyddyn i nodi'r pen-blwydd, gyda’r cyfan yn bosibl diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Lantern in the shape of a swan

Mae Camlas Abertawe, a oedd yn ei dydd yn llwybr cludiant gwerthfawr a oedd yn darparu dŵr a phŵer ar gyfer masnach a diwydiant, yn 16 milltir o hyd ac fe'i hadeiladwyd i wasanaethu glofeydd, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng Nghwm Tawe. Heddiw mae'n llwybr cerdded a beicio gyda phum milltir ohoni’n addas ar gyfer cychod ar hyn o bryd. Mae Glandŵr Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Camlas Abertawe sy’n ceisio adfer y rhannau sy'n weddill o'r gamlas yn llawn.

Meddai David Morgan, rheolwr datblygu Cymru Glandŵr Cymru: "Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn dod allan i'w camlas leol i gymryd rhan yn y digwyddiad. Roedd hi mor braf gweld y gamlas yn goleuo ac yn cael ei dathlu fel hyn i nodi ei phen-blwydd yn 225 oed.

"Mae'n enghraifft dda o'r effaith y mae ein camlesi yn ei chael ar y cymunedau y maen nhw’n llifo drwyddyn nhw a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithredu nawr i gadw ein camlesi yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Meddai Sharon Blackford o Gymdeithas Camlas Abertawe: "Mae'r noson wedi bod yn un o uchafbwyntiau ein dathliadau pen-blwydd. Roedden ni wedi gweithio gyda phobl leol ac artistiaid i sicrhau y gallai'r digwyddiad hwn gael ei gynnal ac mae'n wych cael y gymuned leol i gymryd rhan mewn achlysur arbennig i nodi'r garreg filltir hon yn hanes y gamlas."

Gydol 2023 mae Glandŵr Cymru a Chymdeithas Camlas Abertawe wedi dathlu'r pen-blwydd gyda digwyddiadau amrywiol gan gynnwys arddangosfa ar y gamlas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, her canŵio ar y gamlas, prosiect ffilm gydag ysgolion cynradd lleol a sgyrsiau treftadaeth mewn lleoliadau ar hyd hen lwybr y gamlas o Abercraf i Abertawe.

Last Edited: 04 April 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration