Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Ymgyrch Cadw Camlesi yn Fyw - diweddariad un

Rydyn ni wedi cyhoeddi diweddariad yn dilyn cyhoeddi Adolygiad Grant y Llywodraeth yn gynharach eleni.

Ar 10 Gorffennaf 2023, lansiwyd ein hymgyrch #CadwCamlesiYnFyw, gan annog pobl i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol i bwysleisio faint maen nhw'n poeni am gynnal rhwydwaith camlesi diogel a ffyniannus yng Nghymru a Lloegr.

Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y Llywodraeth am doriadau i'r cyllid a ddarperir i'r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol a diffyg darpariaeth barhaus ar gyfer chwyddiant, gan olygu gostyngiad o dros £300 miliwn mewn termau real dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Cawsom ein calonogi’n fawr gan yr ymateb - anfonwyd tua 11,000 o negeseuon e-bost at ASau gan aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno gweld ein rhwydwaith camlesi yn cael ei gynnal, ei ddefnyddio'n ymarferol, a'i warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hwn yn ymateb gwych sydd wedi sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan fel hyn.

Aelodau Seneddol

Mae llawer o ASau yng Nghymru a Lloegr wedi mynegi eu pryder ynghylch y bygythiad i’n camlesi yn y dyfodol, gyda'r potensial y bydd swyddi, busnesau, cyfleoedd hamdden, iechyd a lles yn cael eu colli. Mae eraill wedi cydnabod y bygythiad gwirioneddol iawn i wytnwch yr isadeiledd, i amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac i adferiad natur a bioamrywiaeth.

Mae sawl un wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan gwestiynu'r penderfyniad i leihau ein grant gan y llywodraeth a dangos eu cefnogaeth i'r gwaith a wnawn. Mae cwestiynau wedi eu hysgrifennu yn nau Dŷ’r Senedd. Mae ASau eraill wedi rhoi addewid o’u cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae llawer wedi ymweld â'u dyfrffyrdd lleol, gan weld â’u llygaid eu hunain maint yr ymdrech sydd ei hangen i'w cadw ar agor a'r gefnogaeth anhygoel y mae ein miloedd o wirfoddolwyr yn ei darparu ledled Cymru a Lloegr.

Byddwn yn parhau i achub ar bob cyfle i ymgysylltu â'r llywodraeth i esbonio'r hyn sydd yn y fantol a dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'n pryderon ynglŷn â’r bygythiad i'n dyfrffyrdd.

Y Cyfryngau

Cafodd y newyddion am gyhoeddiad y Llywodraeth a'r toriadau arfaethedig i'n cyllid sylw cenedlaethol ar Sky News, ITV News, rhaglen Today BBC Radio 4 a BBC Radio Wales, gyda sylw sylweddol a pharhaus ar orsafoedd radio rhanbarthol a gorsafoedd radio masnachol wrth i'r effeithiau posibl ar wahanol rannau o'r wlad gael eu harchwilio.

Cafodd y stori sylw eang yn y wasg genedlaethol a rhanbarthol gan gynnwys y Mail, Independent, London Standard, The Yorkshire Post i enwi dim ond rhai. Mewn cyfweliad gyda David Johns ar ei flog 'Cruising the Cut', cafodd Richard Parry, ein prif weithredwr, gyfle i egluro ymhellach oblygiadau'r cyhoeddiad. Ac wrth i'r rhain suddo i mewn, mae llawer o lythyrau a sylwadau gan ddarllenwyr, cynghorwyr ac ASau i gefnogi'r Ymddiriedolaeth wedi cael eu hargraffu.

Roedden ni’n arbennig o hoff o'r golofn gan Matthew Parris yn The Times ar 12 Gorffennaf, a oedd yn sôn am ‘elusen sy'n cael ei rhedeg yn wych’ a oedd yn 'cynnal dyfrffyrdd anhygoel Prydain' gyda’i anogaeth i ddarllenwyr i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol ynglŷn â’r penderfyniad.

Sefydliadau eraill

Rydyn ni’n ddiolchgar i'r llu o sefydliadau sydd hefyd wedi ysgrifennu ar ein rhan at y Llywodraeth. Mae'r rhain yn cynnwys sawl sefydliad fel British Canoeing, British Marine a Cycling UK y mae eu haelodau yn defnyddio ein rhwydwaith dyfrffyrdd ar gyfer eu gweithgareddau, ynghyd â nifer o gynghorau dinas sydd hefyd wedi mynegi eu pryder.

Mae ymgyrch Fund Britain's Waterways, a lansiwyd gan glymblaid o sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr a chefnogwyr dyfrffyrdd mewndirol, hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n eu hwynebu gyda digwyddiad a fynychwyd yn eang ar ddyfrffyrdd Birmingham ddydd Sul 13 Awst. Mae'r ddwy ymgyrch yn atgyfnerthu'r neges i'r Llywodraeth am gefnogaeth barhaus.

Last Edited: 07 March 2024

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration